Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

29 Ebrill 2024

SL(6)482 Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn:

§  Ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned a phenaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn sefydliadau addysg bellach gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

 

§  Gosod y ffi ar gyfer y ddau gategori cofrestru newydd hynny (£46 y flwyddyn).

 

§  Ei gwneud yn ofynnol i bob athro neu athrawes sy’n gweithio yn y categori athrawon addysg bellach ddal cymhwyster penodedig (ac yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor y Gweithlu Addysg adolygu’r rhestr o gymwysterau).

 

§  Ychwanegu ymarferwyr dysgu oedolion ac athrawon addysg bellach at y rhestr o broffesiynau a reoleiddir yng Nghymru.[1]

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: 10 Mai 2024


 



[1] O dan Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023